
Dydd Llun 26 Hydref

Mini Makers
10:00 - 11:00am | £2.50 y plentyn | Oed 1 i 5 oed
Sesiwn hwyliog a blêr o gelf a chrefft gyda phaent, swigod, cynhwysion naturiol a phethau crefftus difyr eraill!

Amser Clai
12:00 - 1:00pm | £4.00 y plentyn | Oed 5 - 11 oed
Byddwch yn greadigol a blêr gyda chlai sy’n sychu yn yr aer. Defnyddiwch eich dychymyg a’ch creadigrwydd, a mynd â’ch campweithiau adref gyda chi.

Gweithdy Dawns gyda National Dance Company Wales
12:00 - 3:00pm | AM DDIM | 12 - 18 oed
Ymunwch â National Dance Company Wales am weithdy dawns gyfoes am ddim yn ystod hanner tymor mis Hydref. Mae’n berffaith i’r rhai sy’n hoff o symud. Byddwn ar y ffordd yn cwrdd â dawnswyr ifanc o bob cwr o Dde Cymru ac yn rhannu llawenydd dawns. Byddwn yn cynhesu, yn dysgu rhai symudiadau ac yn bod yn greadigol. Addas i bobl ifanc 12-18 oed
Dydd Mawrth 27 Hydref

Castell Hwyl
Slot 1: 10:00 - 11:00 | Slot 2 11:30 - 12:30 | Slot 3 13:00 - 14:00
Plentyn £2.50 Oedolyn AM DDIM | Uchafswm oedran 10
Gadewch i’r plant neidio, bownsio a chwarae mewn man diogel dan oruchwyliaeth.Dewch i gael hwyl ar y castell neidio, yn dringo ac yn neidio. Croeso i chi ddewis llyfrau o’n bwrdd LLYFRAU AM DDIM.
Dydd Mercher 28 Hydref

Cerfio ac Addurno Pwmpenni
10:00 - 11:00 | £2.50 yr un | Croeso i bawb
NI DDARPERIR Pwmpenni. Dewch â’ch pwmpenni i YMa. Cerfiwch nhw a chreu wynebau doniol. Addurnwch nhw â phaent, gemau, sticeri, neu rhowch gynnig ar decoupage gyda napcynau. Gadewch y llanast yma. Darperir offer/deunyddiau.

Celf a Chrefft Tymhorol
12:30 - 14:30 | Plentyn £2.50 Oedolyn AM DDIM | Croeso i bawb
Byddwch yn greadigol gyda chelf a chrefft. Crëwch 3-4 o ddyluniadau gwahanol. Gwnewch nhw a mynd â nhw adref gyda chi. Darperir yr holl ddeunyddiau. Sesiwn galw heibio yw hon, felly gallwch ddod a mynd fel y mynnwch o fewn yr amser penodedig.
Dydd Iau 29 Hydref

Clwb Gweithgareddau
10:00 - 14:30 | Plentyn £10 | Oed 8 - 11 oed
Prynhawn llawn dop o ffilmiau, celf a chrefft a chwaraeon! Perffaith i blant gymdeithasu a bod yn greadigol. Y tro hwn byddwn yn cael hwyl a chwarae gemau yn y neuadd. Byddwn yn creu torch hydref i fynd adref gyda chi, ac yna’n dangos The Corpse Bride! (Ni fydd Castell Neidio yn y sesiwn hon)

Gwneud Torch Natur Hwyl
10:45 - 12:15 | £5 y pen | Croeso i bawb
Crëwch dorchau hardd o helyg a deunyddiau a gasglwyd yn yr awyr agored. Addurnwch eich cartref ar gyfer yr hydref. Crëwch un gyda’ch teulu neu gwnewch un eich hun!
The Corpse Bride (PG) yn SineYMa
12:30 - 2:30pm | £4 y tocyn | Croeso i bawb | Plant dan 5 AM DDIM
Dewch i CineYMa i wylio The Corpse Bride a chael dychryn! Yn cynnwys losin a gweithgaredd crefft.
Dydd Gwener 30 Hydref

Celf yn yr Awyr Agored
10:30 - 12:00 | £2.50 yr un | Croeso i bawb
Byddwch yn greadigol ym myd natur a threuliwch amser yn yr awyr agored. Cymerwch ran mewn gweithgareddau fel helfa sborion, creu lluniau natur, bwystfilod clai a mwy. Byddwn yn cyfarfod yn y Dderbynfa yn YMa. Rhaid i oedolyn ddod gyda phob plentyn

Disgo Spwcio gyda Matt Langley
14:00 - 16:00 | Plentyn £6 Oedolyn AM DDIM | Croeso i bawb
Dewch i ddathlu diwedd hanner tymor mis Hydref gyda dawnsio, byrbrydau a phaentio wynebau. Cewch fyrbryd a diod AM DDIM gyda’ch tocynnau










