Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod wedi bod yn llwyddiannus wrth dderbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru cronfa CREATE, i redeg rhaglen ‘Gyda’n Gilydd’ mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Ransack yr haf hwn.

 

Mae'r rhaglen yn cynnwys ein prosiect datblygiad proffesiynol sy'n cynnwys hyfforddiant rhwng ein sefydliadau gyda chyfle i artistiaid dawns annibynnol wneud cais i ymuno â ni ar gyfer y prosiect. Mae hefyd yn cynnwys y llinyn ‘Youth Explore’ a phrosiect cynhwysol ‘True Colours Create’, ac wrth gwrs ein Hysgol Haf ‘Ransack Your Stories’ sy’n archwilio cerddoriaeth, ddawns a ffilm.


… HEFYD YN DYCHWELYD y mae’r  dosbarthiadau cerddoriaeth a ffilm wythnosol yn YMa yn y cyfnod cyn yr ysgol haf, yn rhedeg ochr yn ochr â'n dosbarth dawns ieuenctid!

 

Yn dilyn llwyddiant Prosiect ‘Ransacks Explore On Tour’ gyda ‘DanceBlast Abergavenny’, bydd eu staff a’u cyfranogwyr yn ymuno â ni ar y rhaglen.

Ieuenctid EXPLORE

 Ysgol Haf Ransack

Rhaglen Hyfforddi EXPLORE