Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglenni gyda’n cymunedau a’n partneriaid, gan fod yn fan ar gyfer creadigrwydd, twf, llesiant a ffyniant.
Beth sy’ ‘mlaen yn YMa!

Dydd Sadwrn olaf y mis | 12:00pm - 2:00pm | Te a choffi am ddim
Cyfarfodydd misol yn ystod y dydd i bobl LGBTQ+ a’u cynghreiriaid.Te a choffi am ddim.
Dan ofal RCT Pride.

Dydd Gwener 16eg Hydref | 7:00pm £8 - £10 y tocyn
The Woman On The HillDrama ddwyieithog, darn o gerddoriaeth a symudiad am faterion
newid hinsawdd a llanw’n codi.

Dydd Sadwrn 17eg Hydref | 7:30pm | £15
Noson gyda The Dunwells, dan ofal Between The Trees.
Mae The Dunwells yn fand indie-ffolk-pop llwyddiannus gyda lleisiau cryf, alawon pwerus a geiriau twymgalon.
Dilynwyd eu halbwm cyntaf “Blind Sighted Faith”, a ryddhawyd yn 2012, gan 3 albwm arall. Mae The Dunwells wedi denu cynulleidfaoedd ledled y byd ar ôl teithio’n helaeth yn UDA, Ewrop a’r DU, yn ogystal â pherfformio fel act gefnogi i artistiaid gan gynnwys Mumford & Sons, Tom Jones, Scouting, Bryan Adams ac Elbow. Mae pob tocyn yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.

PÊL-LAWN O HWYL - DWBL-FEIL COMEDI!
Dyddiad: Dydd Gwener 7fed Tachwedd
Amser: 7pm£15 y tocyn
Dwbl-feil o gomedi gerddorol, sgetsys a gair llafar, wedi’i chyflwyno gan dair menyw a ddylai wybod yn well mewn gwirionedd.

Dyddiad:
24ain HydrefAmser: 10am - 4pm
AM DDIM i ddodYmunwch â ni ar gyfer ein Gŵyl Fwyd dan do gyntaf erioed yn YMa! Diwrnod llawn bwyd melys a sawrus, stondinau crefft ac adloniant!

Dyddiad: Bob trydydd dydd Iau o’r mis
Amser: 6:30pm -7:30pm
Pris : £5 cyfraniad awgrymedigRhan 3 o’r gyfres myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar: ar ôl myfyrio ar deimladau yn y corff a’n cyflwr emosiynol, byddwn yn myfyrio nawr ar gynnwys ein meddyliau.

Arddangosfa Living on the Edge
Dyddiad: 2il - 31ain Hydref
Arddangosfa ffotograffiaeth unigol sy’n archwilio sut mae cymunedau’n byw gyda newidiadau amgylcheddol ac yn ymateb iddynt.

Dyddiad: Dydd Mercher 14eg HydrefAmser: 7:00pm - 9:00pmYmunwch â ni bob ail ddydd Mercher o’r mis ar gyfer Ponty Poetry yn YMa.Dewch draw i wrando ar feirdd gorau Ponty neu i ddarllen eich cerddi eich hun. Croeso i bawb!
Gwestai arbennig y mis hwn - Mark Dorey!

Mae Paint and Prosecco yn ôl gyda thiwtor newydd sbon, Tyler Rees! Cliciwch Archebwch Nawr ac ymunwch â ni am noson o beintio hamddenol, cam wrth gam, mewn awyrgylch gyfeillgar a chymdeithasol.

Pantomeim Jac a’r Goeden FfaDyddiad: 9fed - 20fed RhagfyrAmserau amrywiolMae YMa, mewn partneriaeth â DWAB Creative a Roly Poly Events, yn falch o gyflwyno pantomeim Nadolig i’r cyhoedd ac i ysgolion.Addas i’r teulu cyfan!
Tystebau














